Ein Bro
Mae ardal y cyngor yn ymestyn tua 1.887 hectar gyda phoblogaeth o 2,500 (cyfrifiad 2011). Mae ffiniau Cyngor Cymuned Pentir yn cynnwys pentrefi ac ardaloedd gwledig Pentir, Glasinfryn, Waen Wen, Caerhun, Minffordd, Treborth a Penrhosgarnedd. Mae’r ward yn cynnwys Ysgol y Faenol, Ysbyty Gwynedd a Pharc Menai ac yn ymestyn heibio i Blasty Faenol i lawr at y Fenai hyd at Brynadda, Y Felinheli.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu datblygu sylweddol o fewn yr ardal gyda datblygiad Cae Garnedd yng nghanol Penrhosgarnedd a safle tai newydd Redrow ar gyrion y pentref ar safle Goetre. Datblygiad Gofal Ychwanegol yw Cae Garnedd sy’n cael ei reoli ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru. Mae’n cynnwys 42 o fflatiau ar gyfer preswylwyr 55+ mlwydd oed.
Cliciwch ar y llun i agor TAFLEN WYBODAETH am ein bro, ei hanes a llwybrau cerdded:
Asedau’r Cyngor
Mae gan y cyngor nifer o asedau a phrydlesau lle mae cyfrifoldebau rheoli arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Canolfan Glasinfryn (rheolaeth wedi ei ddirprwyo i Bwyllgor Rheoli/ Ymddiriedolwyr)
- Mynwent Gymunedol Pentir (gan gynnwys estyniad newydd a maes parcio)
- Y Capel Bach ( o fewn ffiniau’r fynwent)
- Canolfan Penrhosgarnedd (prydles gan Gyngor Gwynedd gyda’r rheolaeth wedi ei ddirprwyo i Bwyllgor Rheoli/Ymddiriedolwyr)
- Cae Chwarae Caerhun
- Cysgodfannau Bws
- Hysbysfyrddau
- Feinciau
- Cafnau blodau
- Deffibs cymunedol
- Llwybrau cyhoeddus (rheolaeth wedi ei ddirprwyo i Gyngor Cymuned Pentir)