Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau’r Cyngor Llawn

Mae Cyngor Cymuned Pentir yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o wahanol wasanaethau o fewn yr ardal y mae'n ei gynrychioli ac yn gweithredu yn agored a thryloyw er budd ac ar ran y gymuned gyfan. Isod ceir ddisgrifiad cyffredinol o gyfrifoldebau a gweithgareddau Cyngor Cymuned Pentir.

Cynhelir cyfarfodydd Cyngor Cymuned Pentir ar yr ail nos Iau o bob mis. Cynhelir y cyfarfodydd yng Nghanolfannau Penrhosgarnedd a Glasinfryn, fel arfer am 7 yr hwyr. Mae'r cyfarfodydd hyn yn agored i'r cyhoedd ond gofynnir yn garedig i chwi gysylltu â’r Clerc i roi gwybod iddo am eich bwriad i fynychu gan nodi os byddwch angen unrhyw addasiadau neu offer cyfieithu.

Os ydych am ddwyn sylw’r cyngor i unrhyw beth neu am i’r cyngor drafod unrhyw bryder, yna mae’n rhaid i aelodau o'r cyhoedd gysylltu â'r Clerc ymlaen llaw gyda’u sylwadau neu bryderon, neu eu hanfon drwy law cynghorydd. Bydd unrhyw fater o’r fath yn cael ei roi ar yr agenda ac yn cael ei gyflwyno una’i gan y Clerc neu gan y cynghorydd. Ni fydd aelodau’r cyhoedd a’r hawl i ymyrryd na chyfrannu i drafodaethau – byddwch yno i arsylwi yn unig. Am fanylion llawn, gweler adran 21 o’r Rheolau Sefydlog.

Elwyn Jones - ClercEin Clerc yw Mr Elwyn Jones sy’n frodor o Rhiwlas ac yn gyfarwydd iawn ag ardal y cyngor. Ef yw Swyddog Ariannol y Cyngor gyda chyfrifoldeb am gyfrifon ac am drefniadaeth llywodraethu. Mae Elwyn hefyd yn gyfrifol am wasanaethu’r cyfarfodydd, delio a gohebiaeth, rheoli’r fynwent a chladdedigaethau a sicrhau rhaglen cynnal a chadw asedau’r Cyngor – ymysg nifer o bethau eraill!

Ceir manylion cyswllt Elwyn ar dudalen CYSYLLTU.

Mae rhai o gyfrifoldebau’r Cyngor yn cynnwys:

  • Gosod y praesept, sef y dreth ddomestig sy'n cael ei ddosbarthu i'r Cyngor bob blwyddyn;
  • Cyflwyno sylwadau i Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd ar geisiadau cynllunio;
  • Ymateb i ymgynghoriadau arbennig e.e. Cynllun Datblygu;
  • Cynnal a chadw ein hasedau gan gynnwys cysgodfannau bws, hysbysfyrddau, y capel bach ym Mhentir, cae chwarae Caerhun, defibs cymunedol, blychau blodau, feinciau a'r llwybrau cyhoeddus;
  • Pryniant asedau ychwanegol er lles y gymuned e.e. cynnyddu y nifer o deffibs, golau stryd, cysgodfannau bws;
  • Rheoli’r fynwent ym Mhentir;
  • Rheoli ceisiadau am nawdd gan gyfrannu’n ariannol i fudiadau sy’n hybu diwylliant a gweithgareddau lleol;
  • Sicrhau rhaglen torri gwair ar hyd a lled y ddwy ward.

Mae Cyngor Cymuned Pentir hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a gwirfoddol er lles yr amgylchedd, yr amgylchfyd a'r gymuned e.e. cynghorau cymunedau cyfagos, Hwyluswyr Tai Gwledig, Pwyllgorau Rheoli Canolfannau Penrhosgarnedd a Glasinfryn i enwi ond rhai.

Is-bwyllgorau

Aelodaeth

Cyng. Lowri Ann James – Cadeirydd
Cyng. Ieuan Elis
Cyng. Bernard Jones
Cyng. Dafydd Jones Morris
Cyng. John Lewis
Cyng. Jane Pierce

Amlinelliad o Ddyletswyddau’r Pwyllgor Cyllid a Rheoli Risg:

  • Argymell lefel y praecept i’r cyngor llawn yn flynyddol;
  • Paratoi Cynllun Busnes blynyddol;
  • Monitro cyllideb y cyngor;
  • Ymateb i argymhellion yr archwilwyr;
  • Paratoi ac adolygu polisïau’r cyngor a’u hargymell i’r cyngor llawn;
  • Datblygu Cofrestr Risg a’i hadolygu yn reolaidd;
  • Rhoi ystyriaeth lawn i geisiadau am nawdd gan wneud argymhellion i’r cyngor llawn.
  • Argymell prosiectau cyfalaf gan gynnwys gwelliannau i asedau penodol i’w cynnwys yn y cynllun busnes, e.e.:
    • Cynyddu’r nifer o hysbysfyrddau;
    • Cynyddu’r nifer o gafnau blodau o fewn y ward;
    • Sefydlu arwyddion pentrefi newydd, ac yn y blaen;
  • Rheoli a monitro gwaith cynnal a chadw eiddo’r cyngor;
  • Adolygu rheolau’r fynwent a phrisiau claddu gan argymell unrhyw newidiadau i’r cyngor llawn;
  • Ymateb i adroddiadau archwilwyr iechyd a diogelwch e.e. y cae chwarae a’r fynwent;
  • Sicrhau iechyd a diogelwch ar hyd a lled eiddo’r cyngor;
  • Monitro contract torri gwair a sicrhau gwaith o’r ansawdd gorau.

Aelodaeth

Cadeirydd – Cynghorydd (i’w enwebu ar adeg recriwtio)
Cadeirydd y Cyngor Llawn
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Rheoli Risg

 

Amlinelliad o Ddyletswyddau’r Pwyllgor Penodi:

  • Cyfrifol am drefnu penodiadau staff fel bo’r galw, gan gynnwys hysbysebu, creu pecyn gwybodaeth a swydd ddisgrifiad a chynnal cyfweliadau;
  • Gwneud argymhellion i’r cyngor llawn parthed penodiadau;
  • Cyfrifol am reoli’r cyfnod prawf ac adnabod unrhyw anghenion hyfforddi pellach.