Our Area

Translation coming soon...

Mae ardal y cyngor yn ymestyn tua 1.887 hectar gyda phoblogaeth o 2,500 (cyfrifiad 2011). Mae ffiniau Cyngor Cymuned Pentir yn cynnwys pentrefi ac ardaloedd gwledig Pentir, Glasinfryn, Waen Wen, Caerhun, Minffordd, Treborth a Penrhosgarnedd. Mae’r ward yn cynnwys Ysgol y Faenol, Ysbyty Gwynedd a Pharc Menai ac yn ymestyn heibio i Blasty Faenol i lawr at y Fenai hyd at Brynadda, Y Felinheli.

Llwybrau PentirYn ddiweddar, bu datblygu sylweddol o fewn yr ardal gyda datblygiad Cae Garnedd yng nghanol Penrhosgarnedd a safle tai newydd Redrow ar gyrion y pentref ar safle Goetre. Datblygiad Gofal Ychwanegol yw Cae Garnedd sy’n cael ei reoli ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru. Mae’n cynnwys 42 o fflatiau ar gyfer preswylwyr 55+ mlwydd oed. Mae gwybodaeth bellach am safle Redrow i’w cael ar eu safle we www.redrow.co.uk.

Click on the photo to open our INFORMATION LEAFLET about our area, its history and footpaths:

Asedau’r Cyngor

Mae gan y cyngor nifer o asedau a phrydlesau lle mae cyfrifoldebau rheoli arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Canolfan Glasinfryn (rheolaeth wedi ei ddirprwyo i Bwyllgor Rheoli’r Ganolfan)
  • Mynwent Gymunedol Pentir (gan gynnwys estyniad newydd a maes parcio)
  • Capel bach ( o fewn ffiniau’r fynwent)
  • Canolfan Penrhosgarnedd (prydles gan Gyngor Gwynedd gyda’r rheolaeth wedi ei ddirprwyo i Bwyllgor Rheoli’r Ganolfan)
  • Cae Chwarae Caerhun
  • Cysgodfannau Bws
  • Hysbysfyrddau
  • Feinciau
  • Cafnau blodau
  • Llwybrau cyhoeddus (rheolaeth wedi ei ddirprwyo i Gyngor Cymuned Pentir)

Ardal Y Cyngor

Ardal y Cyngor

Ward y Faenol

Vaenol Ward

Ward Glasinfryn

Glasinfryn Ward

Llywodraeth Leol a Chenedlaethol

Llywodraeth Leol a Chenedlaethol