|
Cyng. IEUAN ELLIS
Cadeirydd
Cyfeiriad:
12 Tregaean
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2HR
Is-bwyllgorau/grwpiau:
Pwyllgor Cyllid a Rheoli Risg
Grŵp Adolygu’r Gofrestr Risg
Proffil:
Yn wreiddiol o Abersoch ond wedi byw yn dalgylch Cyngor Pentir am oddeutu 30eg o flynyddoedd. Yn gyn Brif Swyddog Gweithredol efo’r Gwasanaeth Sifil ac wedi gweithio yn bennaf yn adrannau Addysg, Hyfforddiant a Mentergarwch. Cyn ymddeol yn 2011 roedd yn gweithio yn Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn swyddfa rhanbarthol y Gogledd.
Cofrestr Buddiant: |
|
Cyng. BERNARD JONES
Cyfeiriad:
Swn y Gwynt
2 Ffordd Tregaean
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2HR
Is-bwyllgorau/grwpiau:
Pwyllgor Cyllid a Rheoli Risg
Proffil:
Yn enedigol o Fethesda, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Erbyn hyn yn byw ym Mangor ac wedi ymgartrefu yno ers dros 25 o flynyddoedd. Bu’n gweithio i’r gwasanaeth iechyd am 45 o flynyddoedd, yn Ysbyty Mȏn ac Arfon i ddechrau ac yna yn Ysbyty Gwynedd. Treuliodd gyfnod byr hefyd yn gweithio i’r gwasanaeth Ambiwlans.
Cofrestr Buddiant:
- Pwyllgor Unllais Dwyfor ag Arfon – cynrychiolydd y cyngor
- Aelod a Blaenor yn Eglwys Emaus, Bangor
- Aelod o Gor Meibion Y Penrhyn, Bethesda
- Cyswllt a Bwrdd Iechyd Prif-Ysgol Betsi Cadwaladr (B.C.U.H.B.)
|
|
Cyng. ANDREW JOYCE
Cyfeiriad:
13, Goleufryn
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2LY
Is-bwyllgorau/grwpiau:
Grŵp Adolygu’r Wefan
Proffil:
Yn dilyn symud o Loegr, mae bellach wedi byw ar Ffordd Penrhos neu o'i chwmpas ers dros 20 mlynedd, ac mae ei dri o blant i gyd wedi derbyn eu haddysg yn Ysgol y Faenol. Ar ôl gyrfa mewn IT a Rheoli Prosiectau yng Ngorsaf Bŵer Wylfa, cafodd ei ddiswyddo’n wirfoddol er mwyn iddo gael mwy o amser gartref gyda’i fab ieuengaf. Mae’n bellach yn gweithio'n rhan amser mewn archfarchnad leol. Mae’n gyn-lywodraethwr Ysgol y Faenol ac yn ddysgwr Cymraeg. Mae hefyd yn falch o nodi ei fod yn Ddemocrat Rhyddfrydol brwdfrydig.
Cofrestr Buddiant:
- Pwyllgor Rheoli Canolfan Penrhosgarnedd – Trysorydd ac Ymddiriedolwr
|
|
Cyng. DAFYDD JONES MORRIS
Cyfeiriad:
9 Tregaean
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2HR
Is-bwyllgorau/grwpiau:
Pwyllgor Cyllid a Rheoli Risg
Pwyllgor Penodi
Proffil:
Gyda chysylltiadau â Dinas Mawddwy, Caernarfon, Tregarth ac ers rhai blynyddoedd bellach Bangor. Cyn-gyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac yn aelod brwdfrydig o Gôr Meibion y Penrhyn. Hefyd yn Ymddiriedolwr gydag Ambiwlans Awyr Cymru.
Cofrestr Buddiant:
- Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru – Ymddiriedolwr
- Aelod o Gôr Meibion y Penrhyn
|
|
Cyng. CAROL WYN OWEN
Cyfeiriad:
2 Dôl Hyfryd
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2JZ
Is-bwyllgorau/grwpiau:
Cadeirydd - Grŵp Adolygu’r Wefan
Proffil:
Yn enedigol o Ddyffryn Ogwen ond wedi byw ym Mhenrhosgarnedd ers 2006. Yn briod gyda mab. Bu'n gweithio i Lywodraeth Leol am dros 35 mlynedd ac yn fwy diweddar fel Rheolwr Polisi a Strategaeth.
Cofrestr Buddiant:
- Aelod o Eglwys Emaus, Bangor
|
|
Cyng. JANE PIERCE
Cyfeiriad:
Fodol Isaf
Ffordd Fodolydd
Y Felinheli
Gwynedd
LL56 4QD
Is-bwyllgorau/grwpiau:
Pwyllgor Cyllid a Rheoli Risg
Proffil:
Yn enedigol o’i milltir sgwâr, mai’n parhau i fyw yn Fodolydd. Dros y blynyddoedd, bu’n wyneb cyfarwydd yn Central Garage, Bangor, yna yn Ferrodo, Caernarfon a heb anghofio Spring Home, Traeth Coch. Bu hefyd wrth gwrs yn ffermio drwy gydol ei hoes. Bellach, mai’n gwirfoddoli i Gyfeillion Ysbyty Gwynedd, yr RVS ac yn rhedeg grŵp ‘Carers Outreach’. Mae hithau hefyd yn aelod brwdfrydig o Glwb yr Henoed ym Mhenrhosgarnedd.
Cofrestr Buddiant:
- Is-Gadeirydd Pwyllgor codi arian RVS
- Aelod o Gynghrair Ffrindiau Ysbyty Gwynedd
- Aelod o Clwb y Garnedd (henoed) ag ar eu pwyllgor
- Aelod o Gylch Merched Glasinfryn
- Aelod o Clwb Garddio Aber
|
|
Cyng. EMLYN ROBERTS
Cyfeiriad:
2, Fourcrosses
Treborth
Bangor
Gwynedd
LL57 2NZ
Is-bwyllgorau/grwpiau:
Proffil:
Wedi ei eni a’i fagu yn Llanfairfechan, cafodd ei addysg yn Ysgol Tryfan ac yna yng Ngholeg Normal, Bangor lle bu iddo raddio gyda BA mewn Gweinyddu yn 1985. Yn 1987 fe gamodd i fyd y gwasanaeth iechyd, gan symud i Ysbyty Gwynedd fel nyrs dan hyfforddiant, ac yna pasio fel nyrs cofrestredig yn 1990. Mae’n parhau yn y proffesiwn hyd heddiw, ond bellach yn gweithio rhan amser ac yn cefnogi’r Gwasanaeth Brechu Covid. Yn 1990 mi briododd Helen gan ymgartrefu yn Nant y Mount, Capel Graig lle gannwyd eu mab, Dafydd. Yn 1995 symudodd i Dreborth ac yno gannwyd Cari ac Elin eu merched. Mae’n ymddiddori mewn beicio a rhedeg, enwedig ar ein mynyddoedd hardd, ac mae’n hoff iawn o fyd natur. Wrth gwrs, mae ei wyrion a’i wyresau bach yn mynd a lot o’u hamser dyddiau yma!
Cofrestr Buddiant:
- Gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB)
|