Newyddion
2024
Ebrill 2024
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r cyngor wedi bod yn gosod nifer o gysgodfannau bws newydd ynghyd ag uwchraddio rhai eraill. Yn ddiweddar, braf iawn oedd gweld y gysgodfan newydd yn cael ei gosod ym Mryn Ogwen, Penrhosgarnedd a fydd yn gymorth mawr i drigolion yr ardal honno. Diolch i’n cynghorwyr o fewn Ward y Faenol am eu gwaith caled yn ymgynghori â’n trigolion ac yn trafod gyda Chyngor Gwynedd i gwblhau’r prosiect.
Mawrth 2024
Mae’n drist iawn nodi bod y Cynghorydd Modlen Lynch wedi penderfynu sefyll i lawr fel cynghorydd dros Ward Glasinfryn. Hoffai’r cyngor felly ddiolch o galon i Modlen am ei holl ymroddiad a chyfraniad i’n gweithgareddau dros ei hamser ar y cyngor, gan gynnwys ymgymryd â’r rôl yn y Gadair. Gan ddymuno’r gorau iddi i’r dyfodol.
Chwefror 2024
Braf iawn yw gweld y cennin pedr yn blaguro ar hyd a lled y plwyf. Mae’r cyngor wedi buddsoddi mewn bylbiau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n hyfryd iawn eu gweld yn tyfu ymhobman erbyn hyn. Cofiwch gysylltu â’r clerc os hofech i’r cyngor fuddsoddi ymhellach yn eich ardal chi.
Ionawr 2024
Aelod newydd ar y cyngor
Mae’n bleser mwyaf gennym gyflwyno i chi ein haelod newydd ar y cyngor sef Emlyn Roberts. Un o efeilliaid yw Emlyn, wedi ei eni a’i fagu yn Llanfairfechan. Cafodd ei Addysg yn Ysgol Tryfan ac yna yng Ngholeg Normal, Bangor lle bu iddo raddio gyda BA mewn Gweinyddu yn 1985. Yn 1987 fe gamodd i fyd y gwasanaeth iechyd, gan symud i Ysbyty Gwynedd fel nyrs dan hyfforddiant, ac yna pasio fel nyrs cofrestredig yn 1990. Mae’n parhau yn y proffesiwn hyd heddiw, ond bellach yn gweithio rhan amser ac yn cefnogi’r Gwasanaeth Brechu Covid. Yn 1990 mi briododd Helen gan ymgartrefu yn Nant y Mount, Capel Graig lle gannwyd eu mab, Dafydd. Yn 1995 symudodd i Dreborth ac yno gannwyd Cari ac Elin eu merched. Dywedodd Emlyn, “Dani di bod mor hapus yn byw yn Nhreborth, mae’n lleoliad gwych ac mor gyfleus!”. Mae’n ymddiddori mewn beicio a rhedeg, enwedig ar ein mynyddoedd hardd, ac mae’n hoff iawn o fyd natur. Wrth gwrs, mae ei wyrion a’i wyresau bach yn mynd a lot o’u hamser dyddiau yma!
Croeso i’n cyngor Emlyn ac mae’n grêt cael cynrychiolydd o Dreborth a’i gylch unwaith eto.
2023
Rhagfyr 2023
Coeden Nadolig ddisglair Pentir
Eleni, roedd y cyngor yn falch iawn o allu cefnogi Parchu Pentir gyda’u cais i ariannu coeden Nadolig ar gyfer y pentref. Er bod yr amserlen yn dynn, fe wnaethon ni lwyddo i brynu coeden hyfryd a rhai goleuadau, a diolch i Gyfeillion Rhiwlas, roedd y goeden yn ddigon o sioe ar y gyffordd i mewn i sgwâr Pentir. Roedd yn bleser pur ei gweld!
Mela y Sioe Gerdd – Ysgol Tryfan
Eleni, perfformiodd disgyblion Ysgol Tryfan eu sioe gerdd ‘Mela’ yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio, Bangor ac roedd yn bleser gallu noddi’r cynhyrchiad drwy gael hysbyseb yn eu rhaglen. Roedd y cynhyrchiad, a gynhaliwyd ar 13eg a 14eg o Ragfyr yn wych. Llongyfarchiadau i’r disgyblion a’r staff – gwaith gwych!
Hydref 2023
Torf dda yn y cyfarfod i drafod Bwrdd Gwybodaeth Hanesyddol Pentir
Cafwyd noson dda yn Neuadd Bentref Rhiwlas ar Ddydd Mercher 4ydd Hydref 2023 pan gyflwynwyd ffeithiau hanesyddol arbennig i bentrefwyr Pentir ynglŷn â Phentir a’i bwysigrwydd fel man y byddai’r porthmyn yn stopio ynddo ers talwm. Rhyngddynt, roedd gan arweinwyr y noson, Sian Shakespear a Cynrig Hughes, lu o wybodaeth ac roedden nhw’n gallu clywed wrth y pentrefwyr y math o wybodaeth yr hoffent ei gweld yn cael ei rhannu. Edrychwn ymlaen at weld y deunydd gorffenedig yn y flwyddyn newydd.
Medi 2023
Tristwch wrth i gynghorydd ymroddgar adael
Gyda thristwch mawr rydyn ni’n cyhoeddi bod y Cynghorydd Dewi Jones wedi penderfynu ymddiswyddo fel cynghorydd Ward y Faenol. Mae Dewi wedi bod yn aelod o’r cyngor ers blynyddoedd a bu’n gadeirydd ac yn is-gadeirydd ar fwy nag un achlysur. Mae ei ymadawiad yn golled fawr i ni, a heb os, bydd ei esgidiau yn rhai anodd iawn i’w llenwi. Hoffai’r cyngor felly ddiolch o galon i Dewi am ei holl ymroddiad, ei ymrwymiad a’i ddyfalbarhad dros y blynyddoedd a dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.
Gorffennaf 2023
Blychau plannu blodau newydd i Ganolfan Penrhosgarnedd
I gyd-fynd â’r blychau plannu sydd wedi’u hariannu a’u gosod mewn mannau amrywiol ar draws ardal y cyngor, mae’n bleser mawr fod y ddau flwch plannu uchod a’r blodau wedi’u rhoi i Ganolfan Penrhosgarnedd. Maen nhw’n dod â rhywfaint o liw y tu allan i’r Ganolfan ac maen nhw hyd yn oed yn dal eich llygad o ymyl y ffordd hefyd. Diolch yn fawr i Antur Fachwen yng Nghwm y Glo am gynhyrchu blychau mor hyfryd – maen nhw’n berffaith!
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Canolfan Penrhosgarnedd 06/07/2023
Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar y 6ed o Orffennaf 2023 am 7pm yn y Ganolfan. Cofiwch ddod draw i gwrdd â'r pwyllgor presennol dros baned a chacen. Byddan nhw’n falch o’r gefnogaeth ac unrhyw un sy'n dymuno ymuno â'r pwyllgor i wirfoddoli yn y Ganolfan.
Mehefin 2023
Uwchraddio’r system ddraenio amgylcheddol newydd yn Neuadd Bentref Glasinfryn
Mae gwaith bellach wedi'i gwblhau ar uwchraddio'r system ddraenio newydd yn Neuadd Bentref Glasinfryn. Roedd yr hen system ddraenio yn dibynnu ar y tanc septig yn y cae yn union o dan y neuadd, a oedd, oherwydd ei agosrwydd at yr afon, yn peri risg amgylcheddol o halogiad. Mae'r gwaith uwchraddio bellach yn golygu bod y tanc septig wedi'i ddatgomisiynu a'i wneud yn ddiogel, gyda'r system ddraenio bellach wedi'i chysylltu â'r prif gyflenwad.
Mai 2023
Gwaith paratoi’r pridd yn y maes chwarae yng Nghaerhun i wella diogelwch
Mae lloriau diogelwch newydd wedi'u gosod yn y maes chwarae yng Nghaerhun i leihau’r achosion o lithro, baglu a chwympo, ac i sicrhau bod anafiadau'n cael eu hosgoi ar bob cyfrif. Mae'r lloriau newydd yn llawer mwy diogel, yn wahanol i'r teils diogelwch a osodwyd yn y gorffennol. Roedd yr hen deils hyn wedi treulio ac wedi crebachu dros y blynyddoedd, gan ganiatáu i chwyn dyfu rhyngddyn nhw, a lle cafwyd perygl o faglu. Rydyn ni’n falch iawn o'r gwaith a wnaed gan G L Jones, Bethesda. Mae’r llawr yn edrych yn wych!
Ebrill 2023
Arwydd newydd ar gyfer Canolfan Penrhosgarnedd
Mae’r cyngor newydd fuddsoddi mewn arwydd newydd ar gyfer Canolfan Penrhosgarnedd i sicrhau bod y gymuned yn gwbl ymwybodol bod y ganolfan yn ‘agored i fusnes’ ac ar gael i’w llogi. Gwelwyd bod hyn yn hanfodol i alluogi'r ganolfan i wneud y defnydd gorau o'u cyfleusterau. Mae’r cyngor wedi ariannu arwydd newydd sbon ym mhen blaen yr adeilad, arwydd arall ar gyfer pen blaen ymyl ffordd ynghyd â baneri hysbysebu ar gyfer y ffens perimedr. Bydd y cyngor hefyd yn ariannu hysbyseb ym mhapur bro Y Goriad am 12 mis i helpu i roi hwb i archebion.
Croeso i’n Cynghorydd newydd!
Yn dilyn ein hymgyrch hysbysebu ddiweddar am swydd wag i gynrychioli Ward Glasinfryn, gallwn gyhoeddi y cafwyd un datganiad o ddiddordeb, a chytunodd y cyngor i dderbyn y cais hwnnw yn eu cyfarfod diwethaf. Mae’n bleser mawr cael cyhoeddi felly bod Mr James Griffiths o Waen Wen, Caerhun, wedi’i gyfethol fel cynghorydd Ward Glasinfryn. Nid yw James yn ddieithr i rôl cynghorydd, oherwydd bu’n cynrychioli Ward Glasinfryn am nifer o flynyddoedd yn y gorffennol – croeso nôl Jim!
Ionawr 2023
Canolfan Gymunedol yn ailagor i bob grŵp
Yn sgil y pandemig Covid 19, caewyd Canolfan Gymunedol Penrhosgarnedd (Canolfan Penrhos) i bob grŵp heblaw’r Cylch Meithrin, a oedd yn parhau i fod yn agored i gefnogi gweithwyr allweddol. Gyda datblygiad safle Ysgol y Faenol, mae’r Cylch bellach wedi’i ail-gartrefu o fewn adeilad yr ysgol. Gan nad yw'r ganolfan gymunedol newydd yn barod i'w feddiannu eto, mae penderfyniad i gadw'r adeilad presennol ar gau bellach wedi'i adolygu gyda'r bwriad o'i hailagor unwaith eto. Felly mae’r gwaith wedi dechrau, gan gynnwys glanhau trylwyr ac ail-baentio gyda lloriau newydd ar gyfer y gegin a'r toiledau. Dewch i gefnogi'r ganolfan gymunedol fel y gall ffynnu unwaith eto.
Mehefin 2022
Croeso i’r Cyngor!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y 3 sedd wag bellach wedi’u llenwi. Mae hyn yn dilyn proses o hysbysebu'n lleol. Derbyniwyd tri chais, a chytunodd y cyngor yn unfrydol i dderbyn y tri ymgeisydd. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Ieuan Ellis a Carol Wyn Owen, y ddau yn newydd i’r cyngor, ynghyd â Dewi Jones sydd wedi gwasanaethu ar y cyngor ers blynyddoedd lawer. Croeso mawr iawn i'r tri ohonoch chi!
Mai 2022
Croeso i’n Cynghorydd newydd!
Yn dilyn yr etholiadau lleol yn ddiweddar, mae’n bleser cyhoeddi bod gennym aelod newydd o’r cyngor a fydd yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Ein cynghorydd newydd yw’r Cynghorydd Andrew Joyce a bydd yn cynrychioli Ward y Faenol. Mae Andrew yn byw ym Mhenrhosgarnedd ac yn un o’r hoelion wyth sy’n gwirfoddoli i sicrhau llwyddiant Canolfan Penrhosgarnedd. Bu Andrew hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol y Faenol. Croeso Andrew! Mae pob cynghorydd etholedig arall yn dychwelyd ar ôl gwasanaethu ar y cyngor yn y gorffennol. Serch hynny, mae 3 sedd wag - bydd y rhain yn cael eu hysbysebu maes o law.
Rhagfyr 2021
Ffarwel i Gynghorydd gweithgar
Yng nghyfarfod diwethaf y cyngor, gyda thristwch mawr y derbyniwyd llythyr ymddiswyddiad y Cynghorydd Eleri Jones. Mae Eleri yn byw ym Mhenrhosgarnedd ac yn ystod ei chyfnod ar y cyngor, gweithiodd yn ddiflino ar gyfer ei chymuned. Mae ei hymadawiad yn golled fawr i’r cyngor a bydd ei hesgidiau yn rhai anodd iawn i’w llenwi. Hoffai’r cynghorwyr ddiolch i Eleri am ei chyfraniad gwerthfawr a dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.