Mynwent Pentir

Rheolau Mynwent Pentir

  1. Rhaid i rybudd am gladdedigaeth gael ei roi i Glerc y Cyngor, dau ddiwrnod clir (heb gyfrif y Sul) cyn yr angladd,
  2. Ni chaniateir claddu heb gyflwyno'r dystysgrif i'r Clerc cyn diwrnod yr angladd.
  3. Pan fydd tystysgrif meddyg yn gorchymyn claddu ar unwaith, gall y Cyngor weithredu drwy wneud eithriad o Reol 1 a 2.
  4. Bydd giatiau y ddwy Fynwent ar glo parhaol, ac mae angen cael caniatâd cyn mynediad.
  5. Fel arfer 8' x 4' x 7' 9" o ddyfnder fydd maint bedd, a hynny ar gyfer dim mwy na thair claddedigaeth. Pe ddymunir claddu un neu ddau gorff yn unig yn y bedd, yna fe ganiateir i'r dyfnder fod yn llai ond gofalu bod o leiaf dwy droedfedd a hanner o bridd uwchlaw‘r arch, wrth fesur i lawr o wyneb y tir.
  6. Rhaid i ddefnyddiau gael ei dwyn i'r fynwent yn y fath fodd ag i beidio niweidio'r rhodfeydd a'r tir. Mae'n ofynnol i bob defnydd gael ei glirio ar ol claddedigaeth. Ni chaniateir defnydd o beiriannau torri gwair neu beiriannau eraill gan deuluoedd neu ymwelwyr yn y fynwent.
  7. Yn dilyn unrhyw waith rhaid symud ymaith yn syth unrhyw rwbel, pridd neu gerrig dros ben gan y sawl a fu yn gyfrifol am y gwaith. Rhaid i bob difrod a wneir gael ei atgyweirio'n ddi-oed gan bwy bynnag fu'n gyfrifol.
  8. yn y rhoi'r caniatâd i osod carreg fedd yn y fynwent rhaid i'r sawl a fydd yn gyfrifol am y gwaith anfon cynllun i'r Clerc o'r garreg a fwriedir ei gosod. Ni chaniateir cofebion sydd yn fwy na 3' o led a 4' o uchder a dylid ei gosod ar sylfaen o garreg, llechen neu concrid ac wedi ei ddiogelu a phin dur. Ni chaniateir cyrbau o gwmpas y beddi. Rhaid talu'r ffi angenrheidiol wrth gyflwyno'r cynlluniau.
  9. Mae plotiau gweddillion amlosgi yn unig wedi eu lleoli yn y ddwy fynwent. Ni chaniateir y cofebion hynny fod mwy na 3’ troedfedd o uchder a 3’ droedfedd o led.
  10. Ymgymerwyr angladdau fydd yn gyfrifol am agor a chau'r beddau ac yn gyfrifol am gyflogi a diogelwch eu gweithiwr.
  11. Rhaid diogelu'r beddau nesaf wrth agor bedd newydd a gosod gorchudd priodol ar y beddau hynny i osgoi niwed gan bridd.
  12. Ymgymerwyr angladdau fydd yn gyfrifol am gyflenwi'r brics a'r gorchuddion ar gyfer y beddau. Rhaid i'r brics gael eu gosod yn eu lle gyda sment ac nid ar unrhyw gyfrif eu gadael yn rhydd. Rhaid i'r gorchuddion fod o goncrid cyfnerthedig os nad o lechen.
  13. Y beddau a'r cerrig beddau i gael eu cadw mewn trefn gan y meddianwyr, ac os niweidir bedd drwy gwympiad carreg fedd, bydd perchennog y garreg fedd yn gyfrifol am y niwed.
  14. Disgwylir i bob teulu gadw'r beddi mewn trefn er cynorthwyo’r Cyngor i gadw'r fynwent yn daclus.
  15. Nid yw’r Cyngor yn caniatau’r gwerthiant o blotiau claddu ymlaen llaw. Bydd plotiau claddu ar gael drwy drefniant angladd yn unig.
  16. Mae’r Cyngor yn barod i ystyried ceisiadau i osod feinciau ‘coffa’ ond bydd rhaid cael caniatad mewn ysgrifen ar bob achlysur. Rhaid i’r fainc fod o goed addas ag o liw naturiol a bydd disgwyl i’r teulu barhau i gynnal a chadw’r fainc. Os yw’r mainc yn disgyn i gyflwr gwael, yna bydd y Cyngor a’r hawl i’w thynnu a’i gwaredu, yn arbennig os yw’n achosi perygl i ddiogelwch defnyddwyr eraill y fynwent.
  17. Disgwylir i ymwelwyr ymddwyn yn barchus a boneddigaidd, a rhoi bob ysbwriel yn y biniau sydd wedi eu lleoli wrth y giât.
  18. Y teulu fydd yn gyfrifol am dynnu'r garreg fedd cyn yr ail a'r trydydd agoriad ac i'w hail osod.
  19. Mae cyfyngiad gosod ar fedd, unrhyw wrthrych allai ymharu ar les, iechyd, neu ddiogelwch eraill. Ceir arweiniad gan Glerc y Cyngor neu Swyddog cyfrifol arall.
  20. Cyfrifoldeb i deulu’r ymadawedig yw gwneud trefniadau gydag offeiriad neu weinidog i wasanaethu’r angladd a bod yn gyfrifol am dalu am eu gwasanaeth.
  21. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am ddifrod i garreg fedd am unrhyw reswm.
  22. Mae gan y Cyngor yr hawl o bryd i'w gilydd i wneud unrhyw newidiadau yn y trefniadau hyn.

Cafodd y rheolau uchod eu mabwysiadu yng nghyfarfod o'r Cyngor ar 08/06/2023 a yn weithredol o’r dyddiad hwnnw.

Rheolau a Thelerau Mynwent Pentir a Telerau’r Gladdfa (PDF)