Cyllid

 

Mae Cyngor Cymuned Pentir yn cefnogi mudiadau lleol drwy ymateb yn bositif i geisiadau am nawdd, yn arbennig os oes prawf o effaith bositif ar y gymuned leol. Mae’r cyngor yn arbennig yn cefnogi ceisiadau gan fudiadau sy’n darparu gweithgareddau i ieuenctid yr ardal.

Os hoffech wneud cais i’r cyngor, yna cwblhewch y ffurflen isod a’i hanfon i’r Clerc ynghyd a chopi diweddaraf o’ch mantolen. Bydd eich cais yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Cyllid a Rheoli Risg ac argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r cyngor llawn.