Croeso i Cyngor Cymuned Pentir

logo Cyngor Cymuned PentirCroeso i’n gwefan ble cewch drosolwg o waith y Cyngor, cyfarfod eich cynghorwyr ynghyd â dod o hyd i wybodaeth, gwasanaethau lleol a mapiau o lwybrau cyhoeddus y cylch sydd dan ein gofal.
Mae 12 o gynghorwyr ar y Cyngor yn cynrychioli Ward y Faenol (Penrhosgarnedd, Treborth, Capel Graig, Parc Menai a Fodolydd) a Ward Glasinfryn (Caerhun, Glasinfryn a Phentir). Ymysg cyfrifoldebau’r Cyngor mae cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus y gymuned, arosfannau bws, hysbysfyrddau, cae chwarae Caerhun a Mynwent Pentir. 

Os hoffech ddwyn materion i sylw’r Cyngor, yna dylid cysylltu â’r Clerc.